Pob blwyddyn wrth arwain i fyny at y digwyddiad, mae FOCUS Wales hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau cymunedol. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig cyfle i bobl o bob oed a gallu ymwneud â /bod yn rhan o weithdai a pherfformiadau. Ceir gwybodaeth ynglŷn â’n prosiectau cymunedol blaenorol yma:
PENWYTHNOS DEWI SANT WRECSAM
Mae trefnwyr gŵyl gerdd flynyddol FOCUS Wales yn Wrecsam, Gogledd Cymru, wedi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i greu achlysur awyr agored newydd sbon.
Bydd ‘Penwythnos Dewi Sant Wrecsam’ yn digwydd ar ddydd Gwener y 3ydd, Sadwrn y 4ydd a dydd Sul y 5ed o Fawrth, 2017 ac yn cymryd drosodd Stryd Fawr Wrecsam, gan gyflwyno cerddoriaeth byw trwy gydol y tair diwrnod. Mae’r digwyddiad newydd yn ddathliad o ddiwylliant Cymru ac fe fydd yn nodi dydd ein nawddsant cenedlaethol gyda sioe awyr agored llawn hwyl a gaiff sylw mawr a fydd yn arddangos rhai o fandiau gorau a mwyaf addawol Cymru a’r Gogledd Orllewin, yn ogystal â stondinau bwyd arbenigol ac adloniant i’r holl deulu.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfangwbl rhad ac am ddim!!
Bydd mwy o wybodaeth, gan gynnwys amseroedd y sioeau a phwy sy’n cymryd rhan bob dydd, yn ogystal â’r lleoliad canol dre’ yn cael eu cyhoeddi’n fuan, cadwch olwg allan!
www.facebook.com/wrexhamstdavids/
Glyndŵr TV
FOCUS Wales present a series of unique live sessions at the ‘Centre for the Creative Industries’
***Disgwyl Fersiwn Cymraeg*** In the run up to FOCUS Wales 2016, we are working in partnership with Glyndŵr University to present a series of unique live performances at the ‘Centre for the Creative Industries’ – during which performances will be filmed and recorded for broadcast at a later date. Principle lecturers of the ‘Television Production and Technology’ & ‘Studio Recording and Performance Technology’ courses at the university are working closely with FOCUS Wales to deliver this project, which gives audience members the unique opportunity to experience the process by which live music broadcast sessions take place.
Session 1: WEDNESDAY 16th MARCH at 6PM
Glyndŵr TV: FOCUS Wales presents THE ROSEVILLE BAND – SOLD OUT
Session 2: WEDNESDAY 13th APRIL at 6PM
Glyndŵr TV: FOCUS Wales presents BABY BRAVE – Reserve your seats HERE
Glyndwr University: Mixing Metallica talk
***Disgwyl Fersiwn Cymraeg*** FOCUS Wales have partnered with Glyndwr University, Wrexham, for the delivery of an exciting guest lecture from Metallica sound engineer Mick Hughes.
The Big Mick Hughes ‘Mixing Metallica’ lecture takes place at Glyndwr University, Plas Coch Campus, Wrexham, on Friday 4th December 2016 at 1PM.
The talk is FREE to attend, and anybody wanting to attend must register at Meyer Sound here:
http://www.meyersound.com/events/seminars/registration.php?id=01145
FOCUS Wales a Music Glue yn lansio fersiwn Cymraeg newydd sbon o’r platform.
Mae FOCUS Wales wedi partneru gyda Music Glue i ddarparu cyfieithiad Cymraeg ar gyfer llwyfan Music Glue, gan hynny, y 12fed iaith i’w chynnwys at y gwasanaeth. Mae’r ychwanegiad cyffrous hwn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd artistiaid, hyrwyddwyr, labeli, gwyliau a chanolfannau o Gymru’n cael gwerthu tocynnau, nwyddau a chynnyrch digidol i gwsmeriaid yn yr iaith Gymraeg.
Dyma fenter arloesol arall gan FOCUS Wales i gefnogi diwylliant Cymraeg a Chymreig unigryw oddi fewn i’r sector cerdd. Maen nhw’n falch i bartneru â gwasanaeth sy’n parchu unigolyddiaeth diwylliannau cynhenid o fewn fframwaith byd-eang. Mae Music Glue yn tyfu’n aruthrol fel llwyfan sy’n i artistiaid, yn cael ei ddefnyddio gan dros 25 mil o artistiaid ledled y byd ac yn gwerthu unrhyw beth i unrhyw un, trwy gyfrwng unrhyw ddyfais, mewn unrhyw arian ac mewn sawl iaith; bellach mae’n falch o allu cynnwys y Gymraeg yn un o’r rheini.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr FOCUS Wales, Neal Thompson “Rydyn ni’n falch tu hwnt o allu bod yn rhan o dîm gydag enw mor uchel ei barch â Music Glue. Am y tro cyntaf, bydd modd gallu cynnig y cyfle i artistiaid a busnesau yn y byd cerddorol gyfathrebu â chefnogwyr a chwsmeriaid er mwyn gwerthu eu cynnyrch yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny ar draws y byd”.
Dywed Joe Vesayaporn, un o brif symbylwyr Music Glue, “Wedi mynychu Ffocws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi’n cyffroi o wybod y byddwn ni’n bartner swyddogol ar gyfer 2016. Mae Ffocws Cymru yn ŵyl ac yn achlysur arbennig, sy’n rhoi llwyfan i’r talent gorau sy’n cael ei feithrin yng Nghymru, ac felly’n gyfle gwych iddyn nhw arddangos eu doniau. Gydag ychwanegiad y Gymraeg i’r llwyfan, fe fyddwn yn disgwyl i lawer mwy o fandiau o Gymru elwa o’r gwasanaeth hwn”.
Cliciwch y linc isod i gofrestru a chreu proffil
http://musicglue.com/sign-up/
NEU