Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy’n anelu goleuni’r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru’n dod i’r amlwg i gynnig i’r byd. Mae FOCUS Wales 2025 yn nodi 14eg flwyddyn yr ŵyl – a bydd y 15fed tro yn croesawu dros 22,000 o bobl i’r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2024 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau.
Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau diwydiant rhyngweithiol, digwyddiadau rhwydweithio, a dangosiadau ffilm, drwy gydol yr ŵyl.